top of page

Moel Tryfan

Updated: Nov 11, 2022

Taith o Y Fron i Moel Tryfan

Dechrau a Gorffen: Canolfan Y Fron. www.canolfanyfron.org Mae toiledau a cawodydd ar gael yma. Ag Caffi!

Parcio: Mae bosib parcio wrth y ganolfan neu yn ol wrth y gyffordd am Rhosgadfan.

Hyd taith: Tua 4 milltr

Amser: 2 awr

Map: Ordnance Survey OL17 neu Explorer 254

Gallwch lawrlwytho ffeil GPX isod a'i ddefnyddio gyda apps fel OS Maps, Strava ar eich ffon.


 

Moel_Tryfan
.gpx
Download GPX • 562KB
 
  • Cychwyn ar y ffordd am gyfeiriad Mynydd Mawr (Mynydd Eliffant, oherwydd ei debygrwydd i amlinell Eliffant o gyfeiriad Caernarfon), wedi rhyw ychydig o fetrau mae llwybr ar y chwith - llwybr cyhoeddus wedi arwyddo gyda saeth felyn. Hefyd arwydd Llwybr Llechi Eryri. Bydd angen dilyn yr arwyddion yma am gyfnod.

  • Mae'r llwybr yn mynd fyny wrth ochr Twll Braich - byddwch yn ofalus o beidio mynd yn rhy agos!

  • Mewn dipyn bydd y llwybr yn mynd trwy giat a dilyn trac cerbydau am gyfeiriad tomeni llechi, maent yn gweithio yma a mae peiriannau mawr. Angen gofal yma i ffeindio y llwybr - mae y llwybr yn mynd heibio i gwt bach ag yn disgyn lawr oddi ar y llechi a mi welwch postyn gyda arwydd Llwybr Llechi arno


  • Dilyn y llwybr nes cyraedd carreg fawr - mae yna nifer o lwybrau yn yr ardal yma ag yn hawdd 'mynd ar goll' mewn niwl!

  • O'r garreg fawr mae llwybr sydd yn mynd am y tomeni llechi, ag yna wrth ei ymyl ar eich chwith. Fe wneith mewn dipyn ymuno gyda trac cerbyd ag o'ch blaen fe welwch dwll Chwarel Cors y Bryniau. Agorwyd yn 1862 a cyflogwyd 200 o ddynion yma yn ei anterth.

  • Cadewch y twll ar eich ochr chwith a cherdded tuag at ddiwedd y tomeni llechi am gyfeiriad Rhosgadfan bydd llwybr bychan yn ymddangos - llinnell yn y gwair - dilynnwch hwn am y copa, mae yn codi yn raddol iawn heibio ambell ddarn creigiog

  • Fe ddaw y copa i'r golwg, creigiau mawr amlwg. Ymwelodd Charles Darwin a'r creigiau yn 1842 i'w astudio.

  • O'r copa mae golygfa o nifer o fynyddoedd Eryri, Moel Eilio, Mynydd Mawr, Crib Nantlle, hefyd draw am Yr Eifl. Draw hefyd dros Gaernarfon ag Ynys Mon. Y pentref o'ch blaen wrth edrych am Gaenarfon ydi Rhosgadfan, ble mae Cae'r Gors, cartref Kate Roberts, mae nofelau fel Te yn y Grug a Traed Mewn Cyffion wedi eu ysbrydoli gan yr ardal yma, Moel Tryfan a Moel Smytho.


  • O'r copa mae angen anelu ychydig i'r chwith yn ol am y chwarel, mae llwybr bychan amlwg yma, mae yn disgyn yn eithaf creigiog i lawr drwy y llechi - angen gofal yma.


  • Y tu ol i chi mi fedrwch gael golwg arall i lawr am dwll chwarel Cors y Bryniau, a mae chwarel Moel Tryfan ar y dde, dilynwch y trac o'ch blaen a buan iawn y byddwch yn ol wrth giat ag angen troi i'r dde a dilyn y llwybr yn ol lawr am Y Fron.


100 views0 comments
bottom of page